Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

 

 

Rheoli meddyginiaethau - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â threfniadau rheoli meddyginiaethau.

 

Dywedodd Mr Ramsay:

 

"Derbyn presgripsiwn yw un o'r cysylltiadau mwyaf cyffredin y mae cleifion yn ei gael â'r GIG. Mae'n hanfodol bod gan gyrff y GIG drefniadau rheoli meddyginiaethau da ar waith i sicrhau diogelwch cleifion, effeithlonrwydd y gwasanaeth a rheolaeth ar gostau. 

 

"Mae'n galonogol nodi bod y GIG yng Nghymru yn cymryd camau cadarnhaol i wella dulliau rheoli meddyginiaethau. Fodd bynnag, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos bod llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau defnydd diogel a chost effeithiol o feddyginiaethau yng Nghymru. 

 

"Yn benodol, mae angen gwella’r dull o gyfnewid gwybodaeth rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, deall faint o dderbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau, a gweithredu ar y cyd i leihau lefel y cyffuriau sy’n cael eu gwastraffu.

 

"Disgwyliaf i gyrff y GIG a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddeall ac i fynd i'r afael â’r materion a nodwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith i gefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau yn GIG Cymru."

 

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y flwyddyn newydd."

 

Nodiadau i olygyddion

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.

 

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

 

Welsh

 

 

facebook twitter flickrClean_YouTube_Icon_by_TheSuperPup